"To all at Cymorth Llaw, words fail me when it comes to thanking you enough for all the TLC and attention you gave me all the months you were here.
" Service user, Benllech
Amdanom Ni
Ein Hanes Ni
Asiantaeth Gofal Cartref deuluol wedi’i lleoli ym Mangor, Gogledd Orllewin Cymru, yw Cymorth Llaw.
Rydym yn darparu gwasanaeth wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer ystod eang o bobl ag anghenion beunyddiol gwahanol.
Mae gennym hanes o weithio’n galed, ynghyd ag ymrwymiad parhaus i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.
Sefydlwyd y cwmni gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Janice Hogg, a arferai fod yn nyrs, gan ddechrau mewn swyddfa fechan yn ein cartref gydag ond ychydig o Weithwyr Gofal.
Erbyn hyn, rydym wedi ein lleoli mewn Prif Swyddfa a Chanolfan Hyfforddi Gofalwyr Iechyd bwrpasol ym Mangor, Gwynedd. Mae’r cwmni wedi tyfu mewn maint a statws ac rydym bellach yn un o ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref mwyaf a mwyaf adnabyddus yr ardal.
Rydym wedi ennill statws Buddsoddwr mewn Pobl ac rydym bellach wedi cofrestru fel asiantaeth nyrsio sy’n ddigon ffodus i allu cyflogi gweithlu mawr o Weithwyr Gofal proffesiynol sy’n darparu llawer o oriau o ofal bob wythnos yn yr ardal.
Drwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu ein gweithlu a thrwy fabwysiadu agwedd at ofal sy’n rhoi lle canolog i’r defnyddiwr gwasanaeth ym mhob peth a wnawn, dros amser rydym wedi ennill enw arbennig o dda i’n hunain ar sail y gwasanaethau gofal cartref rydym yn eu darparu ar gyfer pobl yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Dros y blynyddoedd, mae ein henw da wedi cynyddu i’r fath raddau nes bod llawer o weithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymddiried yn ein gallu i sicrhau rhagoriaeth mewn gofal dro ar ôl tro.
Yn wir, mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir gennym erbyn hyn yn brawf pellach o faint rydym wedi datblygu mewn cyfnod cymharol fyr.
Heddiw, rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o bobl yn y diwydiant Iechyd a Gofal drwy ein gwasanaeth Gofal Iechyd yn y Cartref pwrpasol.
Mae’r gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant ac sy’n rhoi gofal arbenigol i bobl ag anghenion mwy cymhleth, yn dangos cyn belled rydym wedi dod ers y dyddiau cynnar pan oeddem yn rhedeg cwmni gofal o ystafell gefn yn ein cartref.
Mae ein hanes yn un rydym yn falch iawn o allu ei hadrodd a’r un yw ein nod yn awr ag yr oedd yn y dechrau ac felly y bydd hi am byth,
sef rhoi Gofal Cartref o’r ansawdd rydych yn ei haeddu i chi a pharhau i Wneud Gwahaniaeth i Fywydau Pobl.