"To all at Cymorth Llaw, words fail me when it comes to thanking you enough for all the TLC and attention you gave me all the months you were here.
" Service user, Benllech
Gofal Cartref
Mae Gwasanaeth Gofal Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth gofal proffesiynol sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant yn eu cartrefi eu hunain. Fe fydd y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu gan Weithwyr Gofal proffesiynol, yn golygu bod yr un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael gwneud beth bynnag fedrant ar gyfer eu hunain, ac yn darparu cymorth gyda’r tasgau neu weithgareddau eraill bob dydd y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae’r gwasanaeth Gofal Cartref rydym ni’n ei ddarparu yn bersonol, yn hyblyg ac yn ymarferol, ac yn gallu cynnwys:
- Gofal Personol
- Gwasanaeth Cadw Cwmni ac Eistedd i Mewn
- Paratoi Prydau Bwyd
- Cefnogaeth gyda Chymryd Moddion
- Gofal Seibiant
- Gwasanaethau Dyletswydd Nos, Effro a Chysgu
- Pecynnau gofal tymor byr/tymor hir
- Gofal Dementia Penodol
- Gofal Gwyliau
- Gwaith Cadw Tŷ ysgafn a Gwaith Tŷ Ymarferol
Fe fydd y math o becyn gofal y byddwn yn ei ddarparu i chi’n cael ei deilwra i ffitio eich angen chi am ofal. Mae’r bobl sydd wedi cael budd o’r gwasanaeth hwn yn cynnwys:
- Yr Henoed
- Plant bach, Plant ifanc ac Oedolion ifanc
- Pobl gydag anawsterau corfforol
- Pobl gyda salwch cronig
- Pobl y gallai fod ganddynt salwch terfynol
- Pobl y gallent fod yn gwella ar ôl salwch
- Pobl sy’n dioddef o anawsterau gyda’u synhwyrau
- Pobl gydag anabledd dysgu
Os ydych chi’n credu y byddech chi, neu rywun rydych chi’n ei garu, yn elwa o’n gwasanaethau gofal, ffoniwch ni heddiw ar 01248 679922 a gadewch i ni wneud gwahaniaeth i’ch bywyd.
Yn ôl i wasanaethau Cymorth Llaw