"We would like to thank you and express our sincere appreciation for the dedicated care and attention you have given dad, with your help he has been able to stay living at home for as long as possible. Many thanks.
" Service user’s family, Bangor
Hyfforddiant
Cyrsiau Gofal Cartref a Chyrsiau Arbenigol
Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal
Yn Cymorth Llaw fe fyddwn ni’n buddsoddi’n drwm mewn hyfforddi a datblygu ein gweithlu. Mae ein Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal ym Mangor wedi cael ei hadeiladu’n arbennig i’n pwrpas, ac yno fe fyddwn yn darparu llwybr gyrfa proffesiynol tymor hir mewn gofal i’n holl Weithwyr Gofal. Fe fyddwn ni’n darparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i chi, fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth fyddwch eu hangen i ddarparu’r gofal gorau sydd modd.
Hyfforddi a Datblygu Gweithwyr Gofal
Fe fydd pob un o’n gweithwyr gofal yn cwblhau rhaglen hyfforddi tu mewn i’n sefydliad ni. Mae’r rhaglen yn darparu’r holl hyfforddiant mae’n rhaid ei gael i gyrraedd y safonau gofynnol cenedlaethol, a hyfforddiant ychwanegol, arbenigol, sy’n berthnasol i’ch rôl chi. Fe fyddwn ni’n talu i chi am fynd i’r cyfan o’r hyfforddiant, ac yn talu cost yr holl hyfforddiant y byddwch yn ei gael.
Hyfforddiant a Datblygiad Wedi’i Gysylltu Gyda QCF
Mae’r holl hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn ymwneud gyda’r swydd, ac o’r math diweddaraf sydd ar gael. Mae datblygu eich sgiliau mewn gofal yn bwysig iawn ac mae wedi’i gysylltu gyda’r rhaglen Diploma mewn Gofal QCF rydym yn ei chynnig fel rhan o lwybr gyrfa proffesiynol mewn gofal. Mae ein rhaglen hyfforddi’n cynnwys:
- Hyfforddiant Cyflwyniad i’r Gwaith a Hyfforddiant Ymarferol mewn Gofal, mewn Swyddfa
- Cyflwyniad i’r Gwaith, yn y Gymuned
- Dilyn a Sylwi ar Weithwyr eraill, yn y Gymuned
- Pasbort Codi a Thrin Cymru Gyfan
- Materion Sylfaenol Gofal, yn cynnwys rôl y gweithiwr gofal
- Cyfathrebu, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chanolbwyntio ar y person wrth weithredu
- POVA
- Amddiffyn Plant
- Gofal Personol
- Rheoli Haint
- Cymorth Cyntaf
- Diogelwch Bwyd Sylfaenol
- Ymwybyddiaeth o Foddion
- Iechyd a diogelwch
- Ymwybyddiaeth tân
- Ymwybyddiaeth dementia
- Ymwybyddiaeth cathetr and stoma
- Gofal a diogelwch Peg
- Urddas a Pharch
- Gofal Lliniarol
Cadet Gweithiwr Gofal
Rydym ni’n parhau i ddarparu cyfle, cymorth a chefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal i weithio mewn sefyllfa broffesiynol, gan ddarparu llwybr gyrfa tymor hir mewn gwaith gofal i bobl 18-24 mlwydd oed, trwy ein Rhaglen Cadét Gweithiwr Gofal sy’n llwyddiannus ac yn defnyddio syniadau newydd.
I gael mwy o wybodaeth am sut i ymuno yn y cynllun hwn, os gwelwch yn dda ffoniwch 01248 679922 neu ebostio craig@cymorthllaw.org